Y Bachgen Main (The Slender Lad)
Fel yr o'wn i'n rhodio'r caea ddy' Mawrth diwetha' o ddyddia'r byd
Mewn lle isel dan goedwig dawel mi glwy'n i ddwy'n ymgomio 'nghyd
Nesu wnes i'n nes nes atynt nes o'wn i yn y lle a'r fan
A phwy oedd yno yn ymgomio ond f'anwyl gariad i gyda'i mam.
'F'annwyl eneth, ti sydd yma gyda mi â'th ddwylo'n rhydd
Yn lan dy drwsiad yn hardd d'osodiad a minnau am dy fatsio sydd
Cei fowntio'th geffyl 'y nghangen gynnil a gweision sufyl iawn i'w trin
A golud bydol sef aur melynion ac arian gloywon ar dy glun'
'Pe gawn i rannau gwledydd India sidanau Persia, aur Periw
Gwell gen i'r mab rwyf fi'n ei garu rwyf fi am sefyll iddo'n driw'
'O ai fel yna rwyt ti'n darparu? Cei gweirio'th gwely ar bigau'r drain
Oni choeli 'ngeiria bydd chwerw'r chwara os mentri gyda'r bachgen main.'
'Wel gyda'r bachgen main mi fentra Mam a dwedyd ichi'r gwir
Mi dawa'r moddion i'r cybyddion a mentraf gyda blodau'r sir
Ei wyneb purwyn a'i wallt melyn ac ar ei ruddiau mae dwy ros
A gwyn ei byd y ferch a fyddo yn ei freichiau'n cysgu'r nos!'
As I wandered through the fields last Tuesday of the world’s days
In a low place under a quiet wood I heard two women arguing
I drew nearer to them until I was in the same vicinity
And who was there arguing but my sweetheart and her mother
‘Dear daughter, here you are with me and your hands free
Pure and handsome and I am going to find you a match
Mount the horse my girl, a respectable man to find
And worldly goods of yellow gold and shining silver shall be yours’
‘If I could share in the lands of India, the silks of Persia, the gold of Peru
I would rather the lad I love, to him I will remain true’
‘O is that your intention? You will make your bed of thorns
Heed my words, bitterness will follow if you venture on with the slender lad’
‘Well with the slender lad I will venture mother, I’ll tell you the truth
Caution is for misers, I will go with the flowers of the county
His fair face and his yellow hair and on his cheeks two roses
Happy the girl who sleeps the night in his arms!
|