Catraeth
geiriau gan/ words by Rhys Wyn Parri, Aneirin Owen
Lawr o'r glyn un bore braf i Loegr brysais i
A thri cant glewr farchogion dewr yn teithio dros y ffîn
Ond wrth i'n weled faes y gad, mi gofiais wledd a fu
Gwledd a'r can a fflamau'r tân yn toddi ar y melys gwin.
Yng Nghatraeth drist am wythnos hir bu gwaed ar y darian bres
Y cledd a'r saeth a'r atsain poen yn canu trwy'r niwl a'r tes
O'r diwedd fu yr hedd a ddaeth, ni flasant fwy o'r gwîn
Mewn estron wlad yn gelain nawr y trichant namyn un.
Nol yn y glyn mi glywa cynt yn disgyn calon brudd
A'r gwyr oll i gyd ar goll, yn pydru dan y gwaed a'r pridd
Wrth gofio nawr mi wn yn iawn nis rhaid wrth ddagrau loes
Cans glod a ddaeth i wyr Catraeth wrth ddisgyn yn y frwydr hon.
|